16 “A fedri di fynd at ffynhonnell y môr,neu gerdded yng nghuddfa'r dyfnder?
17 A agorwyd pyrth angau i ti,neu a welaist ti byrth y fagddu?
18 A fedri di ddirnad maint y ddaear?Dywed, os wyt ti'n deall hyn i gyd.
19 “Prun yw'r ffordd i drigfan goleuni,ac i le tywyllwch,
20 fel y gelli di ei chymryd i'w therfyn,a gwybod y llwybr i'w thŷ?
21 Fe wyddost, am dy fod wedi dy eni yr adeg honno,a bod nifer dy ddyddiau yn fawr!
22 “A fuost ti yn ystordai'r eira,neu'n gweld cistiau'r cesair?