26 i lawio ar dir heb neb ynddo,a diffeithwch heb unrhyw un yn byw ynddo,
27 i ddigoni'r tir diffaith ac anial,a pheri i laswellt dyfu yno?
28 “A oes tad i'r glaw?Pwy a genhedlodd y defnynnau gwlith?
29 O groth pwy y daw'r rhew?A phwy a genhedlodd y llwydrew,
30 i galedu'r dyfroedd fel carreg,a rhewi wyneb y dyfnder?
31 A fedri di gau cadwynau Pleiades,neu ddatod rhwymau Orion?
32 A fedri di ddwyn Masaroth allan yn ei bryd,a thywys yr Arth gyda'i phlant?