5 Pwy a benderfynodd ei mesurau? Mae'n siŵr dy fod yn gwybod!Pwy a estynnodd linyn mesur arni?
6 Ar beth y seiliwyd ei sylfeini,a phwy a osododd ei chonglfaen?
7 Ble'r oeddit ti pan oedd sêr y bore i gyd yn llawenhau,a'r holl angylion yn gorfoleddu,
8 pan gaewyd ar y môr â dorau,pan lamai allan o'r groth,
9 pan osodais gwmwl yn wisg amdano,a'r caddug yn rhwymyn iddo,
10 a phan drefnais derfyn iddo,a gosod barrau a dorau,
11 a dweud, ‘Hyd yma yr ei, a dim pellach,ac yma y gosodais derfyn i ymchwydd dy donnau’?