1 Atebodd Job:
2 “O na ellid pwyso fy nhrallod,a gosod fy aflwydd i gyd mewn clorian!
3 Yna byddai'n drymach na thywod y môr;am hyn y bu fy ngeiriau yn fyrbwyll.
4 Y mae saethau'r Hollalluog ynof;yfodd fy ysbryd eu gwenwyn;dychryn Duw sy'n gwarchae amdanaf.
5 A yw'r asyn gwyllt yn nadu uwchben glaswellt?A yw'r ych yn brefu uwchben ei borthiant?
6 A fwyteir yr hyn sydd ddi-flas heb halen?A oes blas ar sudd y malws?
7 Y mae fy stumog yn eu gwrthod;y maent fel pydredd fy nghnawd.