13 Wele, nid oes imi gymorth ynof,a gyrrwyd llwyddiant oddi wrthyf.
14 Daw teyrngarwch ei gyfaill i'r claf,er iddo gefnu ar ofn yr Hollalluog.
15 Twyllodd fy mrodyr fi fel ffrwd ysbeidiol;fel nentydd sy'n gorlifo,
16 yn dywyll gan rew,ac eira yn cuddio ynddynt.
17 Ond pan ddaw poethder fe beidiant,ac yn y gwres diflannant o'u lle.
18 Troella'r carafanau yn eu ffyrdd,crwydrant i'r diffeithle, a chollir hwy.
19 Y mae carafanau Tema yn edrych amdanynt,a marsiandïwyr Sheba yn disgwyl wrthynt.