16 yn dywyll gan rew,ac eira yn cuddio ynddynt.
17 Ond pan ddaw poethder fe beidiant,ac yn y gwres diflannant o'u lle.
18 Troella'r carafanau yn eu ffyrdd,crwydrant i'r diffeithle, a chollir hwy.
19 Y mae carafanau Tema yn edrych amdanynt,a marsiandïwyr Sheba yn disgwyl wrthynt.
20 Cywilyddir hwy yn eu hyder;dônt atynt, ac fe'u siomir.
21 Felly yr ydych chwithau i mi;gwelwch drychineb, a dychrynwch.
22 A ddywedais o gwbl, ‘Rhowch imi,ac estynnwch rodd drosof o'ch cyfoeth;