22 A ddywedais o gwbl, ‘Rhowch imi,ac estynnwch rodd drosof o'ch cyfoeth;
23 achubwch fi o afael y gelyn,a rhyddhewch fi o afael gormeswyr’?
24 “Hyfforddwch fi, a thawaf;a dangoswch imi sut y cyfeiliornais.
25 Mor ddi-flas yw geiriau uniawn!Pa gerydd sydd yng ngherydd un ohonoch chwi?
26 A ydych yn credu y gallwch geryddu geiriau,gan fod ymadroddion y diobaith yn wynt?
27 A fwriech goelbren am yr amddifad,a tharo bargen am un o'ch cyfeillion?
28 Ond yn awr, bodlonwch i droi ataf;ai celwydd a ddywedaf yn eich gŵydd?