24 “Hyfforddwch fi, a thawaf;a dangoswch imi sut y cyfeiliornais.
25 Mor ddi-flas yw geiriau uniawn!Pa gerydd sydd yng ngherydd un ohonoch chwi?
26 A ydych yn credu y gallwch geryddu geiriau,gan fod ymadroddion y diobaith yn wynt?
27 A fwriech goelbren am yr amddifad,a tharo bargen am un o'ch cyfeillion?
28 Ond yn awr, bodlonwch i droi ataf;ai celwydd a ddywedaf yn eich gŵydd?
29 Trowch; na foed anghyfiawnder.Trowch eto; ar hyn y saif fy nghyfiawnhad.
30 A oes anghyfiawnder ar fy nhafod?Onid yw taflod fy ngenau yn adnabod cam flas?”