3 Yna byddai'n drymach na thywod y môr;am hyn y bu fy ngeiriau yn fyrbwyll.
4 Y mae saethau'r Hollalluog ynof;yfodd fy ysbryd eu gwenwyn;dychryn Duw sy'n gwarchae amdanaf.
5 A yw'r asyn gwyllt yn nadu uwchben glaswellt?A yw'r ych yn brefu uwchben ei borthiant?
6 A fwyteir yr hyn sydd ddi-flas heb halen?A oes blas ar sudd y malws?
7 Y mae fy stumog yn eu gwrthod;y maent fel pydredd fy nghnawd.
8 “O na ddôi fy nymuniad i ben,ac na chyflawnai Duw fy ngobaith!
9 O na ryngai fodd i Dduw fy nharo,ac estyn ei law i'm torri i lawr!