9 O na ryngai fodd i Dduw fy nharo,ac estyn ei law i'm torri i lawr!
10 Byddai o hyd yn gysur imi,a llawenhawn yn yr ing diarbed(nid wyf yn gwadu geiriau'r Sanct).
11 Pa nerth sydd gennyf i obeithio,a beth fydd fy niwedd, fel y byddwn yn amyneddgar?
12 Ai nerth cerrig yw fy nerth?Ai pres yw fy nghnawd?
13 Wele, nid oes imi gymorth ynof,a gyrrwyd llwyddiant oddi wrthyf.
14 Daw teyrngarwch ei gyfaill i'r claf,er iddo gefnu ar ofn yr Hollalluog.
15 Twyllodd fy mrodyr fi fel ffrwd ysbeidiol;fel nentydd sy'n gorlifo,