15 Pwysa ar ei dŷ, ond ni saif;cydia ynddo, ond ni ddeil.
16 Bydd yn ir yn llygad yr haul,yn estyn ei frigau dros yr ardd;
17 ymbletha'i wraidd dros y pentwr cerrig,a daw i'r golwg rhwng y meini.
18 Ond os diwreiddir ef o'i le,fe'i gwedir: ‘Ni welais di’.
19 Gwywo felly yw ei natur;ac yna tyf un arall o'r pridd.
20 “Wele, ni wrthyd Duw yr uniawn,ac ni chydia yn llaw y drygionus.
21 Lleinw eto dy enau â chwerthin,a'th wefusau â gorfoledd.