9 Canys nid ydym ni ond er doe, ac anwybodus ŷm,a chysgod yw ein dyddiau ar y ddaear.
10 Oni fyddant hwy'n dy hyfforddi, a mynegi wrthyt,a rhoi atebion deallus?
11 A dyf brwyn lle nad oes cors?A ffynna hesg heb ddŵr?
12 Er eu bod yn ir a heb eu torri,eto gwywant yn gynt na'r holl blanhigion.
13 Felly y mae tynged yr holl rai sy'n anghofio Duw,ac y derfydd gobaith yr annuwiol.
14 Edau frau yw ei hyder,a'i ymffrost fel gwe'r pryf copyn.
15 Pwysa ar ei dŷ, ond ni saif;cydia ynddo, ond ni ddeil.