16 Ofni'r Arglwydd yw cyflawnder doethineb;o'i ffrwythau fe rydd iddynt ddigonedd o win.
17 Fe leinw eu holl dŷ hwy â'i phethau dymunol,a'u hysguboriau â'i chnydau.
18 Ofn yr Arglwydd yw torch doethineb,a thangnefedd a hoen iechyd yn flodau arni.
19 Ef a'i canfu hi, a'i dosrannu;glawiodd fedrusrwydd a phwyll gwybodaeth,a dyrchafodd i ogoniant y rhai sy'n glynu wrthi.
20 Ofni'r Arglwydd yw gwreiddyn doethineb,a hir ddyddiau yw ei changhennau hi.
22 Ni ellir cyfiawnhau dicter anghyfiawn,oherwydd pan dry ei ddicter y dafol cwympo a wna dyn.
23 Bydd un da ei amynedd yn ymarhous nes dyfod ei awr,ac yna bydd llawenydd yn torri arno.