1 Y mae'r sawl sy'n cadw'r gyfraith eisoes yn amlhau offrymau,a'r sawl sy'n glynu wrth y gorchmynion eisoes yn aberthu heddoffrwm.
2 Y mae'r sawl sy'n talu cymwynas yn ôl yn offrymu peilliaid,a'r sawl sy'n rhoi elusen yn offrymu aberth moliant.
3 Y mae cefnu ar ddrygioni yn rhyngu bodd yr Arglwydd,a chefnu ar anghyfiawnder yn ennill maddeuant ganddo.
4 Paid ag ymddangos gerbron yr Arglwydd yn waglaw;
5 oherwydd gwneir y pethau hyn oll er mwyn cadw'r gorchymyn.
6 Y mae offrwm y cyfiawn yn eneinio'r allor,a'i arogl pêr yn dod gerbron y Goruchaf.
7 Y mae aberth y cyfiawn yn dderbyniol,a'i goffadwriaeth yn ddigoll.
8 Rho ogoniant i'r Arglwydd yn hael,heb warafun iddo ddim o flaenffrwyth llafur dy ddwylo.
9 Bydd siriol dy wyneb ym mhob rhoi,a bydd lawen wrth gysegru dy ddegwm.
10 Rho i'r Goruchaf fel y rhoes ef i ti,yn hael, yn ôl yr ennill a gefaist.
11 Oherwydd un sy'n talu'n ôl yw'r Arglwydd,ac fe dâl yn ôl i ti seithwaith cymaint.
12 Paid â cheisio'i brynu â rhodd, oherwydd nis derbyn;a phaid ag ymddiried mewn aberth anghyfiawn;oherwydd barnwr yw'r Arglwyddnad yw'n ystyried safle neb.
13 Yn ddi-dderbyn-wyneb yn achos y tlawd,fe wrendy ar ei ble os cafodd gam.
14 Ni fydd byth yn ddiystyr o ddeisyfiad yr amddifad,nac o'r weddw sy'n tywallt ei chŵyn.
15 Onid yw dagrau'r weddw yn llif ar ei gruddiau,wrth iddi lefain yn erbyn y sawl a'u cyffrôdd?
16 Bydd y sawl sy'n gwasanaethu Duw ac yn rhyngu ei fodd yn gymeradwy,a bydd ei weddi yn esgyn hyd at y cymylau.
17 Y mae gweddi'r gostyngedig yn treiddio'r cymylau,ond nis bodlonir nes iddi gyrraedd ei nod.Ni fydd yn peidio, nes i'r Goruchaf ymweld ag efi farnu o blaid y cyfiawn, a gweini cosb.
18 Ni fydd yr Arglwydd byth yn oedi,ac ni fydd yn ymarhous wrthynt,nes iddo ddryllio llwynau'r anhrugarog,a dial ar y cenhedloedd;nes iddo fwrw allan dyrfa'r rhyfygusa dryllio teyrnwialen yr anghyfiawn;
19 nes iddo dalu'n ôl i bob un yn ôl ei gyflawniadau,a barnu gweithredoedd pawb yn ôl eu hamcanion;nes iddo mewn barn achub cam ei bobl,a pheri llawenydd iddynt â'i drugaredd.
20 Y mae trugaredd yn nydd cyfyngder mor amserol âchymylau glaw yn nydd sychder.