Ecclesiasticus 50 BCND

Simon fab Onias

1 Yr archoffeiriad Simon fab Onias,dyma'r gŵr a atgyweiriodd y deml yn ystod ei fywyd,a chadarnhau'r cysegr yn ei ddydd.

2 Ganddo ef hefyd y gosodwyd sylfeini'r mur o ddau uchdwr,y mur uchel o amgylch mangre'r deml.

3 Yn ei ddydd ef y cloddiwyd y gronfa ddŵr,yn bwll tebyg i'r môr yn ei ehangder.

4 Dyma'r gŵr a roes ei fryd ar arbed ei bobl rhag cwympo,ac a gryfhaodd amddiffynfeydd y ddinas yn erbyn gwarchae.

5 Mor ogoneddus ydoedd, a'r bobl yn tyrru o'i gwmpaswrth iddo ddod allan trwy len y deml!

6 Yr oedd fel seren y bore yn disgleirio rhwng y cymylau,neu fel y lleuad ar ei hamserau llawn;

7 fel yr haul yn llewyrchu ar deml y Goruchaf,fel yr enfys yn pelydru'n amryliw yn y cymylau,

8 fel rhosyn yn blodeuo yn y gwanwyn,fel lili ger ffynnon o ddŵr,fel pren thus yn yr haf,

9 fel arogldarth yn llosgi mewn thuser,fel llestr o aur coethwedi ei addurno â meini gwerthfawr o bob rhyw fath,

10 fel olewydden yn llwythog â ffrwyth,ac fel cypreswydden a'i phen yn y cymylau.

11 Pan roddai amdano ei fantell ogoneddus,ac ymwisgo yn ei gyflawn ysblander,wrth fynd i fyny at yr allor sanctaiddbyddai'n tywynnu gogoniant ar fangre'r cysegr.

12 Wrth gymryd darnau'r aberth o ddwylo'r offeiriaid,ac yntau'n sefyll wrth le tân yr allor,a'i frodyr yn dorch o'i amgylch,yr oedd fel cedrwydden ifanc yn Lebanonyng nghanol coedlan o balmwydd.

13 A holl feibion Aaron yn eu gwychder,ac offrymau'r Arglwydd yn eu dwylo,yn sefyll o flaen cynulleidfa gyflawn Israel,

14 byddai yntau'n cwblhau defodau'r allorau,a rhoi trefn ar yr offrwm i'r Goruchaf a'r Hollalluog:

15 yn estyn ei law at gwpan y diodoffrwmac yn arllwys ohono waed y grawnwin,gan ei dywallt wrth droed yr allor,yn berarogl i'r Goruchaf, Brenin pawb.

16 Yna gwaeddai meibion Aarona chanu eu hutgyrn o fetel coeth,nes bod y sŵn yn atseinio'n hyglywi'w hatgoffa gerbron y Goruchaf.

17 Ar hyn, yn ddiymdroi, byddai'r holl bobl gyda'i gilyddyn syrthio ar eu hwynebau ar y ddaeari addoli eu Harglwydd,yr Hollalluog, y Duw Goruchaf.

18 Codai'r cantorion eu lleisiau mewn mawl,gan felysu'r gân ag amryfal seiniau;

19 a'r bobl hwythau'n ymbil ar yr Arglwydd Hollalluog,mewn gweddi gerbron y Duw Trugarog,nes cwblhau trefn addoliad yr Arglwydda dirwyn y gwasanaeth i ben.

20 Wedyn dôi Simon i lawr a chodi ei ddwylodros gynulleidfa gyfan Israel,i gyhoeddi bendith yr Arglwydd â'i wefusau,gan orfoleddu yn ei enw ef.

21 A byddai'r bobl yn ymgrymu eilwaith mewn addoliad,i dderbyn y fendith gan y Goruchaf.

Bendithio Duw

22 Ac yn awr, bendithiwch Dduw'r cyfanfyd,sy'n cyflawni ei fawrion weithredoedd ym mhobman,sy'n mawrhau ein dyddiau o'n geni,ac yn ymwneud â ni yn ôl ei drugaredd.

23 Rhoed ef inni lawenydd calon,a llenwi ein dyddiau ni â heddwch,a dyddiau Israel hefyd am byth.

24 Rhoed inni sicrwydd o'i drugaredda gwaredigaeth yn ein dyddiau

Cenhedloedd Atgas

25 Y mae dwy genedl sy'n gas gennyf,a thrydedd, nad yw'n genedl o gwbl:

26 preswylwyr Mynydd Seir, a'r Philistiaid,a'r bobl ynfyd sy'n trigo yn Sichem.

Doethineb Iesu Fab Sirach

27 Hyfforddiant mewn deall a gwybodaetha ysgrifennwyd yn y llyfr hwngennyf fi, Iesu fab Sirach, o Jerwsalem;ynddo yr arllwysais y ddoethineb a darddodd o'm meddwl.

28 Gwyn ei fyd y sawl sy'n ymdroi gyda'r pethau hyn;o'u trysori yn ei galon fe ddaw'n ddoeth;

29 o'u gweithredu, caiff nerth at bob gofyn.Oherwydd bydd goleuni'r Arglwydd ar ei lwybr.