1 Dyma fydd molawd doethineb iddi ei hunan,a'i hymffrost ymhlith ei phobl;
2 dyma eiriau ei genau yng nghynulleidfa'r Goruchaf,a'i hymffrost yng ngŵydd ei lu nefol:
3 “Myfi yw'r gair o enau'r Goruchaf,a gorchuddiais y ddaear fel niwl.
4 Myfi a osodais fy mhabell yn yr uchelderau,ac y mae fy ngorsedd mewn colofn o gwmwl.
5 Amgylchais gylch y nefoedd fy hunan,a thramwyais y dyfnderau diwaelod.
6 Ar donnau'r môr ac ar yr holl ddaear,ac ar bob pobl a chenedl, enillais feddiant.
7 Ymhlith y rhain i gyd ceisiais orffwysfa;yn nhiriogaeth p'run ohonynt y gwnawn fy nhrigfan?
8 Yna rhoes Creawdwr y cyfanfyd orchymyn imi;gosododd fy Nghrëwr fy mhabell yn ei lle.‘Gosod,’ meddai, ‘dy babell yn Jacob,a myn dy etifeddiaeth yn Israel.’
9 O'r dechreuad, cyn bod y byd, y creodd fi,a hyd y diwedd ni bydd darfod arnaf ddim.
10 Yn y tabernacl sanctaidd bûm yn gweini ger ei fron,ac felly fe'm sefydlwyd yn Seion.
11 Dyma sut y gwnaeth imi orffwys yn y ddinas sy'n annwyl ganddo,ac y daeth imi awdurdod yn Jerwsalem.
12 Bwriais fy ngwreiddiau ymhlith pobl freintiedig,pobl sy'n gyfran yr Arglwydd ac yn etifeddiaeth iddo.
13 Tyfais fel cedrwydden yn Lebanonac fel cypreswydden ar lethrau Hermon;
14 tyfais fel palmwydden yn En-gedi,ac fel prennau rhosod yn Jericho;fel olewydden hardd ar wastatiry tyfais, neu fel planwydden.
15 Fel sinamon ac aspalathus rhoddais sawr perlysiau,ac fel myrr dethol taenais fy mherarogl,fel galbanum ac onyx a stacte,ac fel arogldarth thus yn y tabernacl.
16 Estynnais i fy nghanghennau fel terebinth;canghennau llwythog o ogoniant a gras oedd fy rhai i.
17 Blagurais yn haelwych fel y winwydden;a daeth llawnder o ffrwyth gogoneddus o'm blodau.
19 Dewch ataf fi, chwi sy'n blysio amdanaf,a bwytewch eich gwala o'm ffrwythau.
20 Cofio amdanaf sy'n well na melyster mêl,a'm hetifeddu'n well na dil mêl.
21 Y rhai a ymborthant arnaf, newynu am fwy y byddant,a'r rhai a yfant ohonof, sychedu am fwy y byddant.
22 Ni bydd cywilydd ar neb a fydd yn ufudd i mi,ac ni phecha neb a fydd yn gweithio dan fy nghyfarwyddyd.”
23 Llyfr cyfamod y Duw Goruchaf yw hyn oll,y gyfraith a orchmynnodd Moses i ni,i fod yn etifeddiaeth i gynulleidfaoedd Jacob.
25 Y mae'n peri i ddoethineb orlifo fel Afon Phison,ac fel Afon Tigris yn nyddiau'r blaenffrwyth;
26 y mae'n chwyddo dealltwriaeth yn llifeiriant fel Afon Ewffrates,ac fel yr Iorddonen yn nyddiau'r cynhaeaf;
27 y mae'n peri i addysg ddisgleirio fel goleuni,ac fel Gihon yn nyddiau'r cynhaeaf gwin.
28 Ni lwyddodd y dyn cyntaf i'w llwyr amgyffred,na'r olaf chwaith i'w holrhain hi.
29 Llawnach na'r môr yw ei meddyliau hi,a'i chyngor na'r dyfnfor diwaelod.
30 Minnau, fel camlas yn llifo o afony deuthum allan, fel ffrwd yn rhedeg i ardd.
31 “Dyfrhaf fy ngardd,” meddwn,“a diodaf ei gwelyau hi.”A dyna'r gamlas yn troi'n afon imi,a'm hafon yn troi'n fôr.
32 Paraf eto i addysg oleuo fel y wawr,ac i'w goleuni ddisgleirio ymhell.
33 Tywalltaf eto athrawiaeth fel proffwydoliaeth,a'i gadael ar fy ôl i genedlaethau'r dyfodol.
34 Gwelwch nad trosof fy hunan yn unig y llafuriais,ond dros bawb sy'n ceisio doethineb.