Ecclesiasticus 15 BCND

1 Y sawl sy'n ofni'r Arglwydd a wna hyn oll,a'r sawl sy'n dal gafael ar y gyfraith a gaiff ddoethineb.

2 Daw hi i'w gyfarfod fel mam;rhydd groeso iddo fel priodasferch ifanc.

3 Rhydd fara dealltwriaeth iddo'n ymborth,a dŵr doethineb yn ddiod.

4 Ynddi hi y bydd ei gadernid, ac nis syflir;ynddi hi y bydd ei gynhaliaeth, ac nis siomir.

5 Fe'i dyrchefir ganddi yn uwch na'i gymdogion,a chaiff ganddi air i'w draethu yng nghanol y gynulleidfa.

6 Llawenydd a choron gorfoledd fydd ei ran,ac enw tragwyddol fydd ei etifeddiaeth.

7 Ni chaiff rhai diddeall afael ar ddoethineb,ac ni chaiff y pechadurus ei gweld hi.

8 Pell yw hi oddi wrth falchder,ac ni chofia dynion celwyddog ddim amdani.

9 Nid gweddus moliant yng ngenau pechadur,oherwydd nis anfonwyd gan yr Arglwydd.

10 Trwy ddoethineb y mynegir mawl,a'r Arglwydd sy'n ei hyrwyddo.

Rhyddid Ewyllys

11 Paid â dweud, “Yr Arglwydd a barodd imi gwympo”,oherwydd ti sydd i beidio â gwneud yr hyn sy'n gas ganddo ef.

12 Paid â dweud, “Ef a'm harweiniodd ar gyfeiliorn”,oherwydd nid oes angen y pechadurus arno ef.

13 Y mae pob ffieiddbeth yn gas gan yr Arglwydd,ac nis cerir chwaith gan y rhai sy'n ei ofni ef.

14 Ef yn y dechreuad a wnaeth ddyn,a'i adael i'w dywys gan ei ewyllys ei hun.

15 Os mynni, cei gadw ei orchmynion;ti biau'r dewis i weithredu'n ffyddlon.

16 Gosodwyd o'th flaen ddŵr a thân;cei estyn dy law at b'run bynnag a fynni.

17 Gerbron pob un y mae bywyd a marwolaeth,a ph'run bynnag a ddewis a roddir iddo.

18 Oherwydd mawr yw doethineb yr Arglwydd;cryf a galluog yw, ac yn gweld pob peth.

19 Y mae ei lygaid ar y rhai a'i hofna,a hysbys iddo fydd holl weithredoedd pawb.

20 Ni orchmynnodd i neb ymddwyn yn annuwiol,na rhoi cennad iddo i bechu.