Ecclesiasticus 38 BCND

Afiechyd A Meddygaeth

1 Rho i'r meddyg yr anrhydedd sy'n ddyledus am ei wasanaeth,oherwydd yr Arglwydd a'i creodd yntau.

2 Oddi wrth y Goruchaf y daw ei ddawn i iacháu,a chan y brenin y bydd yn derbyn rhodd.

3 Rhydd ei wybodaeth i'r meddyg safle aruchel,ac ennill iddo edmygedd yng ngŵydd y mawrion.

4 Creodd yr Arglwydd o'r ddaear gyffuriau meddygol,ac ni ddirmyga neb call mohonynt.

5 Onid â phren y melyswyd y dŵr,i wneud yn hysbys y rhin oedd iddo?

6 Rhoes ef i bobl wybodaeth,er mwyn cael ei ogoneddu trwy ei ryfeddodau.

7 Trwyddynt hwy y mae meddyg yn iacháu a symud y boen,

8 a'r fferyllydd yr un modd yn cymysgu cyffuriau.Ni cheir diwedd ar weithredoedd yr Arglwydd;oddi wrtho ef y daw heddwch dros wyneb y ddaear.

9 Fy mab, mewn afiechyd, paid â'i ddiystyru,ond gweddïa ar yr Arglwydd, a daw ef i'th iacháu.

10 Ymwrthod â'th fai, uniona dy ddwylo,a glanha dy galon o bob pechod.

11 Offryma berarogl a pheilliaid yn offrwm coffadwriaeth,ac aberth bras, y gorau sydd gennyt.

12 Yna, rho gyfle i'r meddyg, oherwydd yr Arglwydd a'i creodd yntau;paid â'i anfon ymaith, oherwydd y mae ei angen arnat.

13 Gall amser ddod pan fydd dy adferiad yn nwylo'r meddygon.

14 Oherwydd fe ddeisyfant hwythau ar yr Arglwyddam lwyddiant i'w hymdrech i leddfu poen,i iacháu'r claf ac achub ei fywyd.

15 A becho yn erbyn ei Greawdwr,rhodder ef yn nwylo meddyg.

Galar dros y Meirw

16 Fy mab, gollwng ddagrau dros y marw,ac ymrô i alar yn dy ddioddefaint poenus;amdoa ei gorff mewn modd gweddus,a phaid ag esgeuluso'i gladdedigaeth.

17 Gan wylo'n chwerw a galarnadu'n angerddol,gwna dy alar yn deilwng ohono,am un diwrnod, ac am ddau, rhag bod edliw iti;yna, ymgysura yn dy dristwch;

18 oherwydd gall tristwch arwain i farwolaeth,a chalon drist sigo nerth dyn.

19 Mewn aflwydd, y mae tristwch hefydyn aros,ac y mae byw i rywun tlawd yn loes i'w galon.

20 Paid â gollwng dy galon i dristwch,ond bwrw ef ymaith, a chofia am dy ddiwedd.

21 Paid â'i anghofio, oherwydd nid oes dychwelyd;ni wnei ddim lles i'r marw, a byddi'n dy niweidio dy hun.

22 Cofia'r farn a ddaeth arnaf fi, mai felly y daw arnat tithau—arnaf fi ddoe, ac arnat tithau heddiw.

23 Pan roddir y marw i orffwys, pâr i'w goffadwriaeth hefyd orffwys,ac ymgysura amdano, fod ei ysbryd wedi dianc.

Amrywiol Orchwylion

24 O'i gyfle i gael hamdden y daw doethineb i rywun o ddysg;y lleiaf ei orchwylion a ddaw'n ddoeth.

25 Sut y gall rhywun ddod yn ddoeth, ac yntau wrth gyrn yr aradr,a'i ymffrost i gyd yn ei fedr â'r wialen,a'i fryd yn llwyr ar ychen, ac ar eugyrru yn eu gwaith,heb fod ganddo unrhyw sgwrs ond am loi teirw?

26 Ar droi cwysi y rhydd ei fryd,a chyll ei gwsg i roi porthiant i'r heffrod.

27 Felly hefyd y mae pob crefftwr a meistr crefftsydd wrth ei waith nos a dydd:y rhai sy'n ysgythru ar seliau,gan ddyfal amrywio'r patrymau;ar gael yr union debygrwydd yn y llun y rhoddant eu bryd,a chollant eu cwsg i orffen y gwaith.

28 Felly hefyd y gof: y mae'n eistedd wrth yr eingion,yn craffu ar yr haearn sydd i'w weithio;bydd mwg ei dân yn crychu ei gnawdwrth iddo frwydro yng ngwres y ffwrnais;bydd sŵn y morthwyl yn atseinio yn ei glustiau,a'i lygaid yn syllu ar ei batrwm;ar gwblhau'r gwaith y rhydd ei fryd,a chyll ei gwsg i'w orffen yn gelfydd.

29 Felly hefyd y crochenydd: y mae'n eistedd wrth ei waithac yn troi'r dröell â'i draed,mewn pryder yn wastad am ei waith,i gwblhau'r nifer a osodwyd iddo.

30 Â'i fraich y mae'n moldio'r clai,gan blygu tua'r llawr o'i flaen i arfer ei nerth.Ar sgleinio'r gwaith yn berffaith y rhydd ef ei fryd,a chyll ei gwsg i garthu'r ffwrnais.

31 Y mae'r rhain oll a'u hyder yn eu dwylo'u hunain,ac y mae pob un yn feistr ar ei grefft.

32 Hebddynt ni chyfanheddir dinas;ni ddaw iddi na thrigolion na theithwyr.

33 Eto ni ofynnir amdanynt ar gyfer cyngor y bobl,ac ni chodant i safle uchel yn y cynulliad;nid eisteddant ar fainc yr ynadon,ac ni allant ddeall dyfarniadau cyfreithiolnac esbonio egwyddorion disgyblaeth a chosb;ac ni cheir mohonynt yn traethu gwirebau.

34 Ond hwy sydd yn cynnal adeiladwaith y byd,a dilyn eu crefft yw eu gweddi.