Ecclesiasticus 8 BCND

Arfer Synnwyr Cyffredin

1 Paid ag ymryson â llywodraethwr,rhag iti syrthio i'w ddwylo.

2 Paid ag ymgiprys â'r cyfoethog,rhag iddo gynnig talu mwy na thi.Oherwydd bu aur yn ddinistr i laweroedd,ac yn achos i frenhinoedd fynd ar gyfeiliorn.

3 Paid â dadlau â rhywun sy'n dafod i gyd,na llwytho coed ar ei dân ef.

4 Paid â gwatwar y diaddysg,rhag i'th hynafiaid di gael eu hamharchu.

5 Paid ag edliw i neb y pechod y maeeisoes yn troi oddi wrtho;cofia fod pob un ohonom yn haeddu cosb.

6 Paid ag amharchu neb yn ei henaint,oherwydd heneiddio y mae llawer ohonom ninnau.

7 Paid ag ymfalchïo ym marwolaeth neb;cofia mai marw a wnawn ni i gyd.

8 Paid â diystyru'r hyn a draetha'r doeth,ond ymgydnabod â'u diarhebion;oherwydd ganddynt hwy y cei addysga hyfforddiant i weini ar fawrion.

9 Paid â gwyro oddi wrth yr hyn a draetha'r rhai sy'n llawn dyddiau,oherwydd gan eu hynafiaid y dysgasant hwythau;ganddynt hwy y dysgi di ddealla rhoi ateb yn awr yr angen.

10 Paid â chynnau golosg pechadur,rhag iti gael dy losgi yn fflam ei dân.

11 Paid â gadael y rhyfygus o'th olwg,rhag iddo ymguddio i'th faglu ar dy air.

12 Paid â rhoi benthyg i rywun cryfach na thi,ac os gwnei, cyfrif dy hun yn golledwr.

13 Paid â mechnïo uwchlaw dy allu i dalu,ac os gwnei, cofia mai ti fydd y talwr.

14 Paid ag ymgyfreithio â barnwr,oherwydd o'i blaid ef y dyfernir, ar bwys ei safle.

15 Paid â chyd-deithio â rhywun beiddgar,rhag iddo dy lethu'n llwyr,oherwydd bydd ef yn gwneud fel y myn ef ei hun,a thrwy ei ffolineb fe drengi dithau gydag ef.

16 Paid ag ymladd â rhywun llidiog,na mynd am dro gydag ef ar ffordd anial,oherwydd nid yw tywallt gwaed yn ddim yn ei olwg ef,ac fe'th dery i lawr lle nad oes help wrth law.

17 Paid ag ymgynghori â ffŵl,oherwydd ni all ef gadw cyfrinach.

18 Paid â gwneud dim dirgel yng ngŵydd rhywun dieithr,oherwydd ni wyddost beth a wna ef o'r peth.

19 Paid â datgelu dy galon i bawb,na derbyn ffafriaeth gan neb.