Ecclesiasticus 22 BCND

Diogi a Ffolineb

1 Y mae'r diog yn debyg i garreg a faeddwyd,a bydd pawb yn ei hisian ymaith yn ei warth.

2 Y mae'r diog yn debyg i domen dail,a bydd pawb sy'n ei godi yn ei ysgwyd oddi ar ei law.

3 Cywilydd i'r tad a'i cenhedlodd yw mab heb ei hyfforddi,a cholled yw geni merch iddo.

4 Bydd merch gall yn cael gŵr yn etifeddiaeth iddi,ond gofid i'r tad a'i cenhedlodd yw merch sy'n ei waradwyddo.

5 Y mae merch ryfygus yn gwaradwyddo'i thad a'i gŵr,a chaiff ei dirmygu gan y naill a'r llall.

6 Y mae ymddiddan anamserol fel cerdd ar adeg galar,ond y mae ffrewyll bob amser yn ddisgyblaeth ddoeth.

7 Y mae dysgu ffŵl fel gludio darnau o lestr ynghyd,neu fel deffro cysgadur o'i drymgwsg.

8 Y mae ymresymu â ffŵl fel ymresymu â rhywun cysglyd;wedi iti orffen y mae'n gofyn, “Beth sy'n bod?”

11 Wyla dros un marw, oherwydd diffodd ei dân,ac wyla dros y ffôl, oherwydd diffodd ei synnwyr.Wyla'n llawen dros un marw, oherwydd cafodd ef orffwys,ond gwaeth nag angau yw bywyd y ffôl.

12 Saith diwrnod o alar sydd i'r marw,ond i'r ffŵl annuwiol, holl ddyddiau ei oes.

13 Paid ag amlhau geiriau gydag ynfytynnac ymweld â rhywun diddeall.Gwylia rhagddo, rhag iti gael trafferth,a chael dy halogi, yn wir, pan fydd yn ysgwyd y baw oddi arno.Tro dy gefn arno, ac fe gei lonydd,a dianc rhag blinder ei orffwylltra ef.

14 Beth sy'n drymach na phlwm?Pa enw sydd arno ond Ffŵl?

15 Tywod, halen a thalp o haearn,maent i gyd yn llai o faich na rhywun diddeall.

16 Os bydd y trawsbren wedi ei osod yn ddiogel mewn adeilad,ni symudir ef o'i le gan ddaeargryn.Felly'r meddwl, pan fydd yn sefyll yn gadarn ar gyngor doeth,ni therfir arno mewn argyfwng.

17 Y mae'r meddwl a gadarnhawyd gan syniadau deallusfel pared llyfn wedi ei blastro'n gain.

18 Ffens wedi ei gosod ar dir uchel,ni saif yn hir yn nannedd y gwynt.Felly'r meddwl a wnaed yn ofnus gan ddychmygion ffôl,ni saif yn hir yn wyneb yr un dychryn a ddaw.

Cyfeillgarwch

19 Y mae pigo'r llygad yn tynnu dagrau ohono,ac y mae pigo'r meddwl yn amlygu ei hydeimledd.

20 Y mae taflu carreg at adar yn tarfu arnynt,ac y mae edliw i gyfaill yn difa'r cyfeillgarwch.

21 Os tynnaist gleddyf ar gyfaill,paid ag anobeithio; y mae modd adfer y cyfeillgarwch.

22 Os ymosodaist ar gyfaill â'th dafod,paid â phoeni; y mae cymod yn bosibl.Ond edliw a balchder a bradychu cyfrinach a chernod dwyllodrus—o brofi'r rhain ffoi a wna pob cyfaill.

23 Ennill ymddiriedaeth dy gymydog yn ei dlodi,fel y cei gydgyfranogi ag ef yn ei lwyddiant;glŷn wrtho yn amser ei gyfyngder,fel y cei ran gydag ef yn ei etifeddiaeth.

24 Ceir tawch a mwg o'r ffwrnais cyn bod fflam,a'r un modd ddifenwi cyn tywallt gwaed.

25 Ni bydd arnaf gywilydd cysgodi cyfaill;nid ymguddiaf rhag iddo fy ngweld.

26 Os digwydd niwed i mi o'i achos ef,bydd pawb a glyw ar eu gwyliadwriaeth rhagddo.

Gwyliadwriaeth

27 Pwy a rydd wyliadwriaeth ar fy ngenaua sêl pwyll ar fy ngwefusau,i'm cadw rhag syrthio o'u hachos,a chael fy ninistrio gan fy nhafod?