1 Paid â bod yn eiddigeddus wrth wraig dy fynwes,na'i hyfforddi i ymarfer drwg er niwed i ti dy hun.
2 Paid â'th roi dy hun i ferch,a gadael iddi ymosod ar dy gryfder di.
3 Paid â mynd i gyfarfod merch lac ei moesau,rhag iti syrthio i'w maglau hi.
4 Paid ag oedi yng nghwmni dawnsferch,rhag iti gael dy ddal gan ei hystrywiau hi.
5 Paid â chraffu ar wyryf,rhag iti gael dy rwydo a gorfod talu iawn amdani.
6 Paid â'th roi dy hun i buteiniaid,rhag iti golli dy etifeddiaeth.
7 Paid ag edrych o'th gwmpas yn heolydd y ddinas,nac ymdroi yn ei lleoedd anial.
8 Tro dy lygad oddi wrth wraig brydweddol,a phaid â chraffu ar brydferthwch gwraig dyn arall;o achos prydferthwch gwraig aeth llawer ar gyfeiliorn,a thrwyddo cyneuir serch fel tân.
9 Paid byth â chydeistedd â gwraig briod,nac ymuno â hi mewn gloddest a gwin,rhag iti osod dy fryd arni,a llithro ohonot i ddinistr llwyr.
10 Paid â chefnu ar hen gyfaill,oherwydd nid yw un newydd cystal ag ef;y mae cyfaill newydd fel gwin newydd;wedi iddo heneiddio y cei fwynhad o'i yfed.
11 Paid â chenfigennu wrth bechadur yn ei lwyddiant,oherwydd ni wyddost beth fydd ei dynged ef.
12 Paid ag ymbleseru ym mhleserau yr annuwiol;cofia fod eu cosb yn sicr hyd at fedd.
13 Cadw'n ddigon pell oddi wrth un a chanddo awdurdod i ladd;yna ni ddaw ofn marwolaeth i darfu arnat.Ond os doi di ato, paid â chymryd cam gwag,rhag iddo gymryd dy einioes oddi wrthyt.Ystyria dy fod yn rhodio yng nghanol maglauac yn cerdded ar dyrau uchaf y ddinas.
14 Hyd y gelli, amcana adnabod dy gymdogion,ac ymgynghora â doethion.
15 Bydded dy ymddiddan â'r deallus,a'th ymadrodd bob amser am gyfraith y Goruchaf.
16 Bydded y cwmni wrth dy fwrdd yn rai cyfiawn,a bydded dy ymffrost yn ofn yr Arglwydd.
17 Ar gyfrif eu dwylo y canmolir gwaith crefftwyr,a cheir llywodraethwr yn ddoeth ar gyfrif ei eiriau.
18 Un i'w ofni yn ei ddinas yw'r sawl sy'n dafod i gyd,a'i gasáu a gaiff y byrbwyll ei eiriau.