1 Os cei dy benodi'n llywydd gwledd, paid ag ymddyrchafu;bydd yn eu plith fel un ohonynt hwy;gofala amdanynt hwy cyn eistedd dy hun.
2 Ar ôl cyflawni pob dyletswydd, yna cymer dy le wrth y bwrdd,ac felly cei lawenydd yn dy westeion,a thorch ar dy ben am drefnu'r wledd mor dda.
3 Os wyt yn hen, llefara—dyna dy fraint—ond yn fyr ac i bwynt, a heb darfu ar y gân.
4 Tra pery'r perfformiad, rho daw ar dy gleber,a phaid â doethinebu'n annhymig.
5 Insel o ruddem mewn tlws o auryw cynghanedd cân yn y gyfeddach win;
6 insel o emrallt mewn addurn o auryw nodau cân wrth flasu melyster y gwin.
7 Os ifanc wyt, llefara'n unig os bydd rhaid,a dwywaith ar y mwyaf, oni ofynnir cwestiwn iti.
8 Bydd yn gryno, gan ddweud llawer mewn ychydig;bydd fel un sy'n gwybod, ac eto'n gallu tewi.
9 Yng nghwmni mawrion, paid â chystadlu â hwy,a pharablu llawer pan fydd rhywun arall yn siarad.
10 Y mae mellt yn fflachio o flaen y daran,a chymeradwyaeth yn rhagflaenu rhywun gwylaidd.
11 Cod i ymadael yn brydlon; paid â bod yn olaf;brysia adref yn ddiymdroi.
12 Yno cei ymlacio a gwneud a fynni,heb bechu trwy siarad balch.
13 Ac at hyn oll, bendithia dy Greawdwr,a lanwodd dy gwpan â'i roddion daionus.
14 Bydd y sawl sy'n ofni'r Arglwydd yn derbyn ei ddisgyblaeth,a'r rhai sy'n codi'n fore i'w geisio yn ennill ei ffafr.
15 Bydd y sawl sy'n rhoi ei fryd ar y gyfraith yn cael boddhad ynddi,ond achos cwymp fydd hi i'r rhagrithiwr.
16 Bydd y rhai sy'n ofni'r Arglwydd yn gallu barnu'n deg,a bydd eu gweithredoedd cyfiawn yn llewyrchu fel goleuni.
17 Bydd y pechadurus yn gwrthod cerydd,ac yn darganfod cyfiawnhad dros wneud ei ewyllys ei hun.
18 Nid yw'r pwyllog byth yn diystyru awgrym;ni ŵyr y pagan balch beth yw gwargrymu mewn ofn.
19 Paid â gwneud dim heb ymbwyllo;yna, ar ôl ei wneud, ni fydd yn edifar gennyt.
20 Paid â theithio ar hyd ffordd lawn o rwystrau,i faglu ar draws yr holl gerrig sydd arni.
21 Paid â bod yn or-hyderus ar ffordd ddirwystr,
22 a gwylia lle'r wyt yn mynd.
23 Ym mhopeth a wnei, cred ynot ti dy hun,oherwydd dyna beth yw cadw'r gorchmynion.
24 Y mae'r sawl sy'n credu yn y gyfraith a gofal ganddo am y gorchmynion,ac ni bydd y sawl sy'n ymddiried yn yr Arglwydd yn ôl am ddim.