Ecclesiasticus 49 BCND

Joseia

1 Y mae coffadwriaeth Joseia fel arogldarthwedi ei weithio'n fedrus a'i ddarparu gan beraroglydd;y mae ei felyster fel mêl i bob genau,neu fel cerddoriaeth mewn gwledd o win.

2 Gweithredodd ef yn uniawn er tröedigaeth y bobl,gan fwrw ymaith bob ffieiddbeth anghyfreithlon.

3 Cyfeiriodd ei galon yn union at yr Arglwydd,ac yn nyddiau gwrthod y gyfraith bu'n gadarn ei ymlyniad wrth wir grefydd.

Jeremeia

4 Ac eithrio Dafydd a Heseceia a Joseia,pentyrru trosedd ar drosedd a wnaeth pob brenin;cefnasant ar gyfraith y Goruchaf.Ac felly y darfu am frenhinoedd Jwda,

5 oherwydd ildiasant eu gallu i erailla'u gogoniant i genedl estron.

6 Llosgwyd y ddinas etholedig, cartref y cysegr,a gadael ei heolydd yn ddiffeithwch,

7 fel y proffwydodd Jeremeia, y gŵr hwnnw a gamdriniwyd,ac yntau wedi ei gysegru'n broffwyd yn y groth,i ddiwreiddio, i ddrygu ac i ddinistrio,a hefyd i adeiladu ac i blannu.

Eseciel

8 Gwelodd Eseciel yntau weledigaeth o'r gogonianta ddatguddiwyd iddo uwchlaw cerbyd y cerwbiaid.

9 Oherwydd cofiodd Duw am ei elynion â chawod ei ddigofaint,a'r rhai union eu llwybrau â'i fendithion.

Y Deuddeg Proffwyd

10 Bydded i esgyrn y deuddeg proffwyd, felly,egino eto o'r ddaear lle'u claddwyd,oherwydd rhoesant gysur i Jacoba gwaredu'r bobl â'u gobaith ffyddiog.

Sorobabel a Josua

11 Sut y mae datgan mawredd Sorobabel?Yr oedd ef fel sêl-fodrwy ar law dde'r Arglwydd.

12 A'r un modd Josua fab Josedec.Dyma'r ddau yn eu dydd a adeiladodd y tŷa chodi i'r Arglwydd deml sanctaidd,wedi ei darparu i ogoniant tragwyddol.

Nehemeia

13 Rhagorol hefyd yw coffadwriaeth Nehemeia,a gododd i ni y muriau a syrthiasai,ac atgyweirio'r pyrth a'r barrauac ailadeiladu ein tai.

Y Patriarchiaid

14 Ni chrewyd neb ar y ddaear i'w gymharu ag Enoch,oherwydd cymerwyd ef i fyny oddi ar y ddaear.

15 Ni anwyd chwaith neb tebyg i Joseff,llywodraethwr ei frodyr a chadernid ei bobl;y mae ei esgyrn ef wedi eu cadw'n ddiogel.

16 Cafodd Sem a Seth fri ymhlith y bobl,ond goruwch pob peth byw yn y greadigaeth y mae Adda.