1 Ni bydd meddwyn o weithiwr yn casglu cyfoeth,ac i lawr bob yn dipyn yr â'r sawl sy'n esgeulus o bethau bach.
2 Y mae gwin a mercheta yn arwain dynion call ar gyfeiliorn,a chynyddu mewn rhyfyg y bydd yr hwn sy'n ymlynu wrth buteiniaid.
3 Fe â'n ysglyfaeth i bydredd a phryfed;darfod amdano a wna'r rhyfygus.
4 Penwan yw'r parod ei ymddiriedaeth,ac er niwed iddo'i hun y mae rhywun yn pechu.
5 Collfarn sy'n aros y sawl sy'n ymfalchïo yn ei feddwl,
6 ond llai fydd y niwed i'r sawl sy'n casáu clebran.
7 Paid byth ag ailadrodd gair a glywi,ac ni fyddi byth ar dy golled.
8 Paid ag adrodd hanes na chyfaill na gelyn,na datgelu ei gyfrinach, oni fydd tewi yn bechod ynot.
9 Oherwydd os bydd ef wedi dy glywed a chael achos i'th amau,bydd yntau yn ei dro yn dy gasáu di.
10 A glywaist ti hel straeon? Gad iddi farw gyda thi.Paid â phoeni, gelli eu chadw heb iti ffrwydro.
11 Y ffôl fydd mewn gwewyr am y straeon a daenir amdano,fel gwraig wrth esgor ar blentyn.
12 Fel saeth a lynodd ym morddwyd rhywun,felly y mae straeon ym mol y ffôl.
13 Hola gyfaill; dichon na wnaeth ddim,ac os gwnaeth, dichon nas gwna eto.
14 Hola dy gymydog; dichon na ddywedodd ddim,ac os dywedodd, dichon nas dywed eilwaith.
15 Hola gyfaill; oherwydd yn fynych enllib a gafodd;paid â choelio pob clep a glywi.
16 Gall rhywun lithro'n anfwriadol;pwy sydd na phechodd â'i dafod?
17 Hola dy gymydog cyn ei fygwth;rho ei chyfle i gyfraith y Goruchaf.
20 Ofn yr Arglwydd yw pob doethineb,a chynnwys pob doethineb yw cyflawni'r gyfraith.
22 Nid doethineb yw gwybodaeth o ddrygioni,ac nis ceir lle cyfrifir cyngor pechaduriaid yn synnwyr.
23 Y mae clyfrwch sydd eto'n ffiaidd,a cheir un ffôl nad yw ond yn brin o ddoethineb.
24 Gwell yw bod yn brin o ddeall, ac ofni Duw,na rhagori mewn synnwyr a throseddu'r gyfraith.
25 Y mae clyfrwch cywrain sydd eto'n anghyfiawn;a cheir rhywun sy'n ymwrthod â ffafr er mwyn amlygu cyfiawnder.
26 Y mae ambell adyn sy'n gwargrymu mewn dillad galar,a'i galon yn llawn twyll,
27 gan wyro'i wyneb tua'r llawr a chymryd arno bod yn fyddar;ac onid wyt wedi ei adnabod, fe gaiff y trechaf arnat.
28 Os diffyg gallu fydd yn rhwystro rhywun rhag pechu,fe wna ddrwg ar y cyfle cyntaf.
29 Yn ôl yr olwg a geir arno yr adnabyddir rhywun,ac o'i gyfarfod wyneb yn wyneb yr adnabyddir y call.
30 Dillad rhywun, a'i geg agored wrth chwerthin,a'i gerddediad, sy'n dweud y cwbl amdano.