1 Ar ei ôl ef cododd Nathani broffwydo yn nyddiau Dafydd.
2 Fel braster wedi ei wahanu oddi wrth yr heddoffrwm,felly y neilltuwyd Dafydd oddi wrth blant Israel.
3 Chwaraeodd â llewod fel pe baent yn fynnodac ag eirth fel pe baent yn ŵyn o'r praidd.
4 Yn ei ieuenctid oni laddodd ef gawr,a symud eu gwaradwydd oddi ar y bobltrwy godi ei law i fwrw carreg â'i ffon dafla darostwng trahauster Goliath?
5 Oherwydd galwodd ar yr Arglwydd Goruchaf,a rhoes yntau nerth i'w ddeheulawi daro i lawr y rhyfelwr cadarn hwnnwa chodi ei bobl i fuddugoliaeth.
6 Felly clodforwyd ef am y myrddiynau a drechodd,a'i ganmol am gael bendithion yr Arglwydd,pan wisgwyd ef â choron ogoneddus.
7 Oherwydd difaodd y gelynion ar bob tu,a diddymu'r Philistiaid a'i gwrthsafodd;drylliodd eu grym hyd y dydd hwn.
8 Yn ei holl weithgarwch rhoes ddiolchi'r Un Sanctaidd a Goruchel, a datgan ei ogoniant;â'i holl galon canodd fawl,a mynegi ei gariad at ei Greawdwr.
9 Gosododd gantorion gerbron yr allori felysu'r gân â'i hyfrydlais.
10 Rhoes wedduster i'w gwyliau,a threfnu cylch cyflawn yr amseraui foliannu enw sanctaidd yr Arglwydd,a llenwi'r cysegr â sŵn mawl o'r bore bach.
11 Dileodd yr Arglwydd ei bechodaua'i ddyrchafu i awdurdod tragwyddol;gwnaeth gyfamod ag ef, i'w godi yn frenina'i osod ar orsedd ogoneddus Israel.
12 Ar ei ôl ef cododd ei fab, gŵr doeth,a gafodd, trwy ymdrech ei dad, ehangder i drigo ynddo.
13 Teyrnasodd Solomon mewn dyddiau o heddwch,a rhoes Duw lonyddwch o'i amgylch ar bob tu,er mwyn iddo godi tŷ er gogoniant i'w enw ef,a darparu cysegr i bara am byth.
14 Mor ddoeth fuost, Solomon, yn dy ieuenctid,a'th ddealltwriaeth fel afon yn gorlifo!
15 Ymledodd dy ddylanwad dros y ddaeara'i llenwi â diarhebion a dirgelion.
16 Daeth dy enw'n hysbys yn yr ynysoedd pell,a daethpwyd i'th garu am heddwch dy deyrnasiad.
17 Daeth dy gerddi, dy gyffelybiaethau, dy ddiarhebiona'th ddehongliadau yn rhyfeddod yng ngolwg y gwledydd.
18 Yn enw'r Arglwydd Dduw,a adwaenir fel Duw Israel,cesglaist aur fel casglu alcam,a phentyrru arian fel petai'n blwm.
19 Gollyngaist dy hun i gydorwedd â gwragedd,a rhoi iddynt hawl ar dy gorff.
20 Difwynaist dy enw daa halogi dy hiliogaeth;dygaist ddigofaint ar dy blant,a gofid iddynt am dy ffolineb:
21 rhannwyd y frenhiniaeth;ac o Effraim cododd teyrnas wrthryfelgar.
22 Ond nid yw'r Arglwydd byth yn ymwadu â'i drugareddnac yn torri'r un o'i addewidion;ac nid yw am ddileu llinach ei etholedigna difodi hiliogaeth yr un a'i carodd ef;felly rhoes weddill i Jacob,ac i Ddafydd un gwreiddyn o'i gyff.
23 Yna gorffwysodd Solomon gyda'i hynafiaid,gan adael i'w olynu un o'i feibion,ynfytyn y genedl, a'r gwannaf ei ddeall,Rehoboam, y gyrrodd ei amcanion y bobl i wrthryfela.Wedyn daeth Jeroboam fab Nebat, a wnaeth i Israel bechuac a osododd Effraim ar lwybr pechod.
24 Amlhaodd eu pechodau yn ddirfawr,nes eu gyrru'n alltud o'u gwlad.
25 Rhoesant gynnig ar bob math o ddrygioni,nes i'r farnedigaeth ddisgyn arnynt.