Ecclesiasticus 48 BCND

Elias

1 Yna cododd Elias, proffwyd a oedd fel tân,a'i air yn llosgi fel ffagl.

2 Daeth â newyn arnynt,a thrwy ei sêl fe'u gwnaeth yn ychydig.

3 Trwy air yr Arglwydd fe gaeodd y nefoedd,a'r un modd daeth â thân i lawr deirgwaith.

4 Mor ogoneddus fuost, Elias, yn dy weithredoedd rhyfeddol!Gan bwy y mae hawl i ymffrostio fel tydi?

5 Ti, yr hwn a gododd gelain o farwolaeth,ie, o Drigfan y Meirw, trwy air y Goruchaf;

6 a fwriodd frenhinoedd i ddistryw,a gwŷr o fri o'u gwelyau i'w tranc;

7 a glywodd geryddu yn Sinaia dyfarnu dial yn Horeb;

8 a eneiniodd frenhinoedd i dalu'r pwyth,a phroffwydi i fod yn olynwyr iddo;

9 a gymerwyd i fyny mewn corwynt o dân,mewn cerbyd a'i geffylau yn wenfflam;

10 ie, yr hwn yr ysgrifennwyd amdano y daw â'i geryddon yn eu priod amserau,i ostegu'r llid cyn dyfod y digofaint,i gymodi tad â'i fabac i adfer llwythau Jacob.

11 Gwyn eu byd y rhai a'th weloddac a hunodd yn dy gariad;oherwydd fe gawn ni fyw yn ddiau.

Eliseus

12 Wedi i Elias ddiflannu yn y corwynt,llanwyd Eliseus â'i ysbryd ef.Trwy gydol ei ddyddiau ni tharfwyd arno gan lywodraethwr,ac ni allodd neb gael y trechaf arno.

13 Ni bu dim y tu hwnt iddo,ac wedi iddo huno, proffwydodd ei gorff.

14 Yn ei fywyd gwnaeth ryfeddodau,ac yn ei farwolaeth weithredoedd i synnu atynt.

Cosbi'r Genedl Anffyddlon

15 Er hyn i gyd, nid edifarhaodd y bobl,na chefnu ar eu pechodau,nes eu dwyn yn ysbail o'u gwlada'u gwasgaru ar hyd a lled y ddaear.Gadawyd y genedl yn fechan iawndan lywodraethwr o dŷ Dafydd,

16 rhai ohonynt a'u gweithredoedd yn gymeradwy,ac eraill yn pentyrru pechodau.

Heseceia

17 Gwnaeth Heseceia ei ddinas yn gadarnle,a dwyn dŵr i mewn i'w chanol hi;tyllodd drwy'r graig ag offer o haearna llunio cronfeydd i'r dyfroedd.

18 Yn ei ddyddiau ef daeth Senacherib i ymosod ar y wlad,ac anfonodd Rabsace o Lachis;cododd ei law yn erbyn Seion, gan ymffrostio'n drahaus.

19 Yna, a'u calonnau a'u dwylo yn gryndod i gyd,ac mewn gwewyr fel gwragedd yn esgor,

20 galwasant ar yr Arglwydd trugarog,gan estyn eu dwylo tuag ato;a buan y gwrandawodd yr Un Sanctaidd o'r nef arnynt,a'u gwaredu trwy law Eseia.

21 Trawodd wersyll yr Asyriaid,a'u difa trwy ei angel.

Eseia

22 Oherwydd gwnaeth Heseceia yr hyn a ryngai fodd yr Arglwydd,a chadw'n ddiysgog at ffyrdd Dafydd ei gyndad,yn unol â gorchymyn Eseia,y proffwyd mawr y gellid ymddiried yn ei weledigaeth.

23 Yn ei ddyddiau ef fe drowyd yr haul yn ei ôl,ac estynnodd ef einioes y brenin.

24 Trwy ysbrydoliaeth fawr rhagwelodd y pethau olaf,a rhoes gysur i'r galarwyr yn Seion.

25 Datguddiodd y pethau oedd i ddod hyd ddiwedd amser,a'r pethau dirgel, cyn iddynt ddigwydd.