Ecclesiasticus 28 BCND

1 A fyn ddial a wêl ddial gan yr Arglwydd,sy'n cadw cyfrif manwl o'i bechodau.

2 Maddau i'th gymydog ei gamwedd,ac yna cei faddeuant am dy bechodau di, pan ddeisyfi amdano.

3 Os deil rhywun ddig yn erbyn un arall,a all geisio iachâd gan yr Arglwydd?

4 Os na chymer drugaredd ar ei gyd-ddyn,a all ddeisyf maddeuant am ei bechodau ei hun?

5 Os yw ef, nad yw ond cnawd dynol, yn meithrin llid,pwy a rydd iddo buredigaeth ei bechodau?

6 Cofia'r diwedd sy'n dy aros, a gad lonydd i elyniaeth;cofia dy dranc a'th farwolaeth, a glŷn wrth y gorchmynion.

7 Cofia'r gorchmynion, a phaid â bwrw dy lid ar dy gymydog;cofia gyfamod y Goruchaf, ac edrych heibio i anwybodaeth.

Cweryla

8 Ymgadw rhag cweryla, a byddi'n llai dy bechod,oherwydd bydd y gwyllt ei dymer yn ennyn cweryl,

9 a'r pechadurus yn creu helynt rhwng cyfeillion,ac yn tarfu ar bobl heddychlon â'i ensyniadau enllibus.

10 Yn ôl y tanwydd a roir arno y llosga'r tân,ac yn ôl poethder y cweryl y llosga'i fflam yntau;yn ôl ei nerth y bydd llidiogrwydd rhywun,ac yn ôl ei gyfoeth y cwyd ei ddicter.

11 Y mae ymryson sydyn yn cynnau tân,a chweryl sydyn yn peri tywallt gwaed.

12 Chwytha ar wreichionen, a gloywi a wna;poera arni, ac fe ddiffydd;o'th enau di y daw'r ddeubeth.

Siarad Maleisus

13 Melltithiwch y clepgi a'r dyblyg ei dafod,oherwydd dinistriodd ef lawer o bobl heddychlon.

14 Y mae trydydd tafod wedi tarfu ar lawer,a'u hymlid o genedl i genedl,gan ddifrodi dinasoedd caeroga dymchwelyd tai y mawrion.

15 Y mae trydydd tafod wedi gyrru gwragedd priod o'u cartrefi,a'u hamddifadu o ffrwyth eu llafur.

16 A rydd goel arno, ni bydd gorffwys iddo mwy,na thawelwch yn ei drigle.

17 Y mae llach ffrewyll yn gadael clais,ond y mae llach tafod yn torri esgyrn.

18 Cwympodd llawer gan fin y cleddyf,ond nid cynifer ag a gwympodd o achos y tafod.

19 Gwyn ei fyd y sawl a gafodd noddfa rhagddo,ac na phrofodd erwinder ei lid;y sawl na wingodd dan ei iau,na'i gael ei hun yn rhwymyn ei gadwyni.

20 Oherwydd iau'r tafod, iau o haearn yw,a chadwyni o bres yw ei gadwyni.

21 Marwolaeth erchyll yw'r farwolaeth a geir ganddo;dewisach yw Trigfan y Meirw na'r tafod.

22 Ni chaiff wastrodaeth ar y rhai duwiol,ac ni losgir hwy gan ei fflam.

23 Y rhai sy'n cefnu ar yr Arglwydd a fyddant yn ysglyfaeth y tafod;bydd yn llosgi'n anniffodd yn eu plith.Gollyngir ef arnynt fel llew,ac fe'u llarpia fel llewpart.

24 Gofala gau dy dir â gwrych o ddrain,a chlo dy arian a'th aur yn ddiogel;

25 gofala hefyd am glorian a phwysau i'th eiriau,a rho ddrws a bollt ar dy enau.

26 Gwylia rhag llithro o achos dy dafod,a syrthio'n ysglyfaeth i'r sawl sy'n aros ei gyfle i'th ddal.