Ecclesiasticus 41 BCND

Marwolaeth

1 O farwolaeth, mor chwerw yw cofio amdanat tii un sy'n byw'n esmwyth ymysg ei feddiannau,i un dibryder sy'n llwyddo ym mhob ymgymeriadac yn dal yn ddigon cryf i fwynhau ei fwyd!

2 O farwolaeth, gweddus yw dy ddedfryd diar un anghenus a'i nerth yn pallu,wedi ei sigo gan henaint, yn bryderus am bob peth,yn wrthnysig, a'i amynedd ar ben!

3 Paid ag ofni dedfryd marwolaeth;cofia'r rhai a fu o'th flaen a'r rhai a ddaw ar dy ôl.

4 Dyma'r ddedfryd a gyhoeddodd yr Arglwydd ar bawb;pa les i ti wrthsefyll ewyllys y Goruchaf?Boed blynyddoedd dy einioes yn ddeg, neu'n gant, neu'n fil,yn Nhrigfan y Meirw ni bydd holi amdani.

Tynged yr Annuwiol

5 Plant ffiaidd yw plant pechaduriaid,yn ymdroi yn nhrigfannau'r annuwiol.

6 Plant pechaduriaid, fe dderfydd eu hetifeddiaeth,a gwaradwydd fydd rhan eu hiliogaeth am byth.

7 Bydd ei blant yn beio tad annuwiolam y gwaradwydd a ddaeth arnynt o'i achos ef.

8 Gwae chwi, rai annuwiol,a gefnodd ar gyfraith y Duw Goruchaf.

9 Pan gewch eich geni, i felltith y'ch genir,a phan fyddwch farw, melltith fydd eich rhan.

10 Y mae popeth sydd o'r ddaear i ddychwelyd i'r ddaear;felly yr â'r annuwiol o felltith i ddistryw.

11 Galaru am eu cyrff a wna pobl,ond dileir enw pechaduriaid am nad yw'n dda.

12 Cymer ofal o'th enw, oherwydd fe erys i'th glodyn hwy na mil o gronfeydd mawr o aur.

13 I fywyd da y mae nifer penodedig o ddyddiau,ond y mae enw da yn aros am byth.

Cywilydd

14 Fy mhlant, daliwch afael ar eich addysg, i fyw mewn heddwch.Doethineb guddiedig a thrysor anweledig,pa fudd sydd yn y naill na'r llall?

15 Gwell yw rhywun sy'n cuddio'i ffolinebna'r un sy'n cuddio'i ddoethineb.

16 Gan hynny, byddwch yn barchus o'm gair i,oherwydd nid yw pob math o gywilydd yn beth da i'w goleddu,ac nid yw pob peth i'w gymeradwyo'n ffyddiog bob amser.

17 Bydded cywilydd arnoch o buteindra yng ngŵydd tad a mam,o gelwydd yng ngŵydd tywysog a llywodraethwr,

18 o drosedd yng ngŵydd barnwr ac ynad,o gamwedd yng ngŵydd y gynulleidfa a'r bobl,o anghyfiawnder yng ngŵydd cydymaith a chyfaill,

19 ac o ladrad yng ngŵydd dy gymdogaeth;ymgywilyddiwch yng ngŵydd gwirionedd a chyfamod Duw.Bydded cywilydd arnat o osod dy benelin ar y bwrdd,o dderbyn a rhoi mewn dirmyg,

20 o fod yn fud yng ngŵydd y rhai sy'n dy gyfarch,o lygadu gwraig sy'n butain,

21 o droi dy wyneb oddi wrth dy gâr,o ddwyn cyfran neu rodd oddi ar rywun,o roi sylw i wraig a chanddi ŵr,

22 ac o ymyrryd â chaethferch dyn—paid â mynd yn agos at ei gwely hi.Bydded cywilydd arnat o eiriau bychanus yng ngŵydd cyfeillion—paid ag edliw iddynt dy rodd ar ôl ei rhoi.

23 Bydded cywilydd arnat o ailadrodd stori a glywaist,ac o fradychu cyfrinachau.

24 Yna byddi'n dangos cywilydd o'r iawn ryw,a byddi'n gymeradwy yng ngolwg pawb.