1 Y mae cerydd sydd heb fod yn ei bryd,ac y mae rhywun tawedog sydd eto'n ddeallus.
2 Cymaint gwell yw ceryddu na dal dig!
3 A gyffeso'i fai a gedwir rhag niwed.
4 Fel eunuch yn chwenychu treisio morwyn,felly y mae rhywun a gais wneud cyfiawnder trwy drais.
5 Y mae un tawedog sy'n cael ei brofi'n ddoeth,ac y mae un arall a gaseir am ei fod yn siarad gormod.
6 Y mae un yn dawedog am nad oes ganddo ateb,ac un arall yn dawedog am ei fod yn gwybod pryd i siarad.
7 Y mae'r doeth yn tewi nes dyfod yr amser priodol,ond y mae'r broliwr ynfyd yn siarad pryd na ddylai.
8 Ffieiddir y sawl sy'n pentyrru gair ar air,a chaseir y sawl sy'n honni mai ef yn unig biau'r hawl i siarad.
9 Gall rhywun gael elw o aflwydd,a gall ennill droi'n golled.
10 Y mae math o roi nad yw'n dwyn elw iti,a math arall sy'n talu'n ddauddyblyg.
11 Gellir ymleihau wrth ymfawrhau,ond ceir hefyd rai a gododd yn uchel o ddinodedd.
12 Gall rhywun brynu llawer am bris bychan,a gorfod talu seithwaith amdanynt.
13 Bydd y doeth trwy ei eiriau yn ei wneud ei hun yn ffefryn,ond yn ofer y tywelltir gweniaith ffyliaid.
14 Nid yw rhodd y dwl o unrhyw werth iti,oherwydd y mae ganddo fwy nag un peth mewn golwg.
15 Ychydig y mae'n ei roi, ond yn edliw llawer,ac yn agor ei geg fel cyhoeddwr;rhoi benthyg heddiw, a gofyn amdano'n ôl yfory;cas gan bawb yw un o'r fath.
16 Dywed y ffŵl, “Nid oes gennyf gyfaill,ac nid oes diolch am fy nghymwynasau.”
17 Y rhai sy'n bwyta'i fara, drygair sydd ganddynt iddo;chwerthin am ei ben y bydd pawb, a hynny'n aml.
18 Gwell llithro ar balmant na llithro â'r tafod;fodd bynnag, buan y daw cwymp y drygionus.
19 Y mae rhywun di-chwaeth fel chwedl anamserolsydd beunydd ar enau'r diaddysg.
20 Os daw dameg o enau ffŵl fe'i gwrthodir,oherwydd nid yw byth yn ei hadrodd yn ei hiawn bryd.
21 Cedwir ambell un rhag pechu gan dlodi,a chaiff orffwys â chydwybod dawel.
22 Y mae ambell un yn ei ddifetha'i hun â'i swildod,neu â'r olwg ynfyd a geir arno.
23 Y mae ambell un rhag cywilydd yn rhoi addewid i gyfaillac yn ei droi'n elyn yn ddiachos.
24 Bai drwg mewn rhywun yw celwydd:y mae beunydd ar enau'r diaddysg.
25 Dewisach lleidr na rhywun sy'n palu celwyddau,ond distryw fydd rhan y ddau.
26 Dygir anfri ar gymeriad rhywun celwyddog,a bydd ei gywilydd beunydd gydag ef.
27 Bydd y doeth trwy ei eiriau yn ei ddyrchafu ei hun,a rhywun o synnwyr yn rhyngu bodd mawrion.
28 Bydd y sawl sy'n trin ei dir yn codi tas uchel,a'r sawl sy'n rhyngu bodd mawrion yn cael puredigaeth i'w gamwedd.
29 Y mae lletygarwch ac anrhegion yn dallu llygaid y doeth,ac fel rhwymyn ar safn yn atal cerydd.
30 Doethineb guddiedig a thrysor anweledig,pa fudd a geir o'r un o'r ddau?
31 Gwell rhywun sy'n cuddio'i ffolinebna rhywun sy'n cuddio'i ddoethineb.