Ecclesiasticus 27 BCND

1 Pechodd llawer er mwyn elw;y mae'r sawl a fyn ymgyfoethogi yn barod i gau ei lygad.

2 Fel hoelen wedi ei hoelio rhwng cydiad meini,y mae pechod yn ymwthio rhwng prynu a gwerthu.

3 Oni lŷn rhywun yn frwd wrth ofn yr Arglwydd,buan y dymchwelir ei dŷ.

Geiriau yn Brawf

4 Wedi ysgwyd gogr, erys y gwehilion;felly y daw gwaethaf rhywun i'r wyneb wrth iddo ddadlau.

5 Y mae'r ffwrn yn profi llestri'r crochenydd,a cheir prawf ar rywun wrth iddo ymresymu.

6 Fel y mae ffrwyth pren yn dangos y driniaeth a gafodd,felly y mae mynegiant rhywun o'i feddyliau yn dangos ei ddiwylliant.

7 Paid â chanmol neb cyn ei glywed yn dadlau,oherwydd dyna'r prawf ar bawb.

8 O geisio cyfiawnder, fe'i cei,a'i wisgo fel gŵn ysblennydd.

9 Bydd adar yn nythu gyda'u tebyg,a bydd gwirionedd yn clwydo gyda'r rhai sy'n ei weithredu.

10 Fel y mae llew'n gwylio'i ysglyfaeth i'w ddal,felly y mae pechod yn gwylio drwgweithredwyr.

11 Traethu doethineb y bydd y duwiol bob amser,ond y mae'r ynfytyn mor gyfnewidiol â'r lleuad.

12 Gwylia dy gyfle i ddianc o gwmni'r diddeall,ond oeda'n hir yng nghwmni'r meddylgar.

13 Ffiaidd yw ymadroddion ffyliaid,a'u chwerthin yn faswedd pechadurus.

14 Y mae siarad un aml ei lwon yn codi gwallt y pen,a chweryla rhai felly'n cau clustiau.

15 Y mae cweryla'r beilchion yn peri tywallt gwaed,a'u difenwi ei gilydd yn merwino'r glust.

Bradychu Cyfrinach

16 Y mae bradychwr cyfrinach wedi diddymu pob ymddiriedaeth ynddo,ac ni chaiff gyfaill mynwesol byth mwy.

17 Câr dy gyfaill a bydd yn ffyddlon iddo,ond os bradychi ei gyfrinach, paid â'i ganlyn mwy.

18 Oherwydd fel y dinistriodd rhywun ei elyn,felly y dinistriaist ti gyfeillgarwch dy gymydog;

19 ac fel y gollyngaist aderyn o'th law,felly y gadewaist i'th gymydog fynd, ac ni chei afael arno eto.

20 Paid â'i ganlyn, oherwydd ciliodd ymhell oddi wrthyt,dihangodd fel ewig o rwyd.

21 Oherwydd gellir rhwymo archoll,a chymodi ar ôl difenwi,ond nid oes gan fradychwr cyfrinach ddim i obeithio amdano.

Rhagrith

22 Y mae'r sawl sy'n wincio yn dyfeisio drwg,ac nid oes neb a'i ceidw oddi wrtho.

23 Geiriau melys a draetha i'th wyneb,a bydd yn dotio at dy eiriau dithau,ond wedyn bydd yn newid ei dônac yn dy faglu â'th eiriau dy hun.

24 Rwy'n casáu llawer o bethau, ond hyn yn fwy na dim,a chas fydd hefyd gan yr Arglwydd.

25 A daflo garreg i'r awyr, fe'i teifl ar ei ben ef ei hun,ac y mae ergyd fradwrus yn clwyfo'r ergydiwr hefyd.

26 A gloddio ffos, fe syrth iddi;a osodo fagl, fe'i delir ynddi.

27 A wnelo ddrwg, arno ef ei hun y treigl yn ôl,ac yntau heb sylweddoli o ble y daeth.

28 Gwatwar a sarhad yw nodau'r balch,ond bydd dial fel llew yn ei wylio, i'w ddal.

29 Eu dal mewn magl a gaiff y rhai sy'n llawenhau yng nghwymp y duwiol,a'u hysu gan ing cyn eu marw.

Dal Dig

30 Llid a dicter, ffiaidd yw'r rhain hefyd,ond dal ei afael arnynt y bydd y pechadurus.