1 Gobeithion ofer a thwyllodrus sydd gan y diddeall,a breuddwydion yw adenydd ffŵl.
2 Fel un a gais ddal ei gysgod neu ymlid y gwynty mae'r sawl a rydd goel ar freuddwydion.
3 Nid yw'r hyn a welir mewn breuddwyd yn ddim namyn llun,cyffelybrwydd o wyneb mewn drych.
4 Beth a lanheir ag aflendid?A beth a wireddir â chelwydd?
5 Ofer pob dewiniaeth ac argoelion a breuddwydion—dychmygion y meddwl, fel eiddo gwraig mewn gwewyr esgor.
6 Onis anfonwyd gan ymweliad y Goruchaf,paid â chymryd sylw ohonynt.
7 Oherwydd y mae breuddwydion wedi arwain llawer ar gyfeiliorn,a dymchwel y rhai a obeithiodd ynddynt.
8 Cyflawnir y gyfraith heb gymorth y fath gelwydd,a chyflawnir doethineb ar enau geirwir.
9 Y mae'r sawl sydd wedi teithio wedi dysgu llawer,a bydd yr helaeth ei brofiead yn traethu synnwyr.
10 Ychydig a ŵyr y prin ei brofiad,ond bydd y sawl sydd wedi teithio yn amlhau ei fedrau.
11 Rwyf wedi gweld llawer ar fy nheithiau,ac rwy'n amgyffred pethau sydd y tu hwnt i'm geiriau.
12 Yn fynych bûm mewn perygl am fy einioes,ond dihengais ar bwys y profiadau hyn.
13 Byw fydd ysbryd y rhai sy'n ofni'r Arglwydd,oherwydd y mae eu gobaith ar un sy'n eu hachub.
14 Y sawl sy'n ofni'r Arglwydd, ni bydd nac ofnusna llwfr, oherwydd yn yr Arglwydd y mae ei obaith.
15 Gwyn ei fyd y sawl sy'n ofni'r Arglwydd.Wrth bwy y mae'n disgwyl? Pwy yw ei gadernid ef?
16 Y mae llygaid yr Arglwydd ar y rhai sy'n ei garu,yn amddiffynfa gadarn ac yn gynhaliaeth gref,yn gysgod rhag gwres tanbaid a rhag haul canol dydd,yn ddiogelwch rhag baglu ac yn gymorth rhag cwympo.
17 Y mae'n codi eu hysbryd ac yn goleuo eu llygaid,gan roi iddynt iechyd a bywyd a bendith.
18 Halogedig yw offrwm a wneir o fudrelw,ac anghymeradwy yw rhoddion digyfraith.
19 Nid yw'r Goruchaf yn ymhyfrydu yn offrymau'r annuwiol,ac nid yw'n puro'u pechodau ar bwys amlder eu haberthau.
20 Y mae dwyn eiddo'r tlodion, a'i gynnig yn offrwm,fel aberthu mab yng ngŵydd ei dad.
21 Y mae bara'n fywyd i'r tlodion yn eu hangen,a llofrudd yw'r sawl a'i cymer oddi wrthynt.
22 Lladd ei gymydog y mae'r sawl sy'n dwyn ei fywoliaeth,a thywallt gwaed y mae'r sawl sy'n atal ei gyflog i weithiwr.
23 Os bydd un yn adeiladu a'r llall yn tynnu i lawr,pa elw fydd iddynt heblaw poen eu llafur?
24 Os bydd un yn gweddïo a'r llall yn melltithio,ar lais p'run y gwrendy'r Meistr?
25 Os ymolcha rhywun ar ôl cyffwrdd celain, a'i chyffwrdd eilwaith,pa faint gwell fydd o'i ymolchi?
26 Felly hefyd os ymprydia rhywun am ei bechodau,a mynd eilwaith a gwneud yr un pethau,pwy a wrendy ar ei weddi,a pha faint gwell fydd o'i ymostyngiad?