1 Bydd rheolwr doeth yn hyfforddi ei bobl,a bydd llywodraeth un deallus wedi ei threfnu'n drwyadl.
2 Fel y mae rheolwr y bobl, felly hefyd ei weinidogion;ac fel y mae llywodraethwr y ddinas, felly ei thrigolion oll.
3 Bydd brenin diaddysg yn ddinistr i'w bobl;ond cyfanheddir dinas trwy ddeall ei llywodraethwyr.
4 Yn llaw'r Arglwydd y mae awdurdod ar y ddaear,ac ef, yn yr amser priodol, fydd yn gosod un cymwys yn ben arni.
5 Yn llaw'r Arglwydd y mae ffyniant pawb,ac ef sy'n gosod ei anrhydedd ar berson y deddfwr.
6 Paid â digio wrth dy gymydog am bob rhyw gam,a phaid â gwneud dim trwy weithredoedd rhyfygus.
7 Casbeth yng ngolwg yr Arglwydd a phobl yw balchder,a gwrthun gan y naill a'r llall yw anghyfiawnder.