15 Diwreiddiodd yr Arglwydd genhedloedd,a phlannu rhai gostyngedig yn eu lle.
16 Dinistriodd yr Arglwydd diroedd cenhedloedd,a'u difa hyd at seiliau'r ddaear.
17 Symudodd rai ohonynt o'u lle a'u difa,a pheri i'w coffadwriaeth ddarfod oddi ar y ddaear.
18 Ni chrewyd balchder ar gyfer dynion,na dicter llidiog ar gyfer plant gwragedd.
19 Pa had sydd i'w barchu? Had dyn.Pa had sydd i'w barchu? Y rhai sy'n ofni'r Arglwydd.Pa had nad yw i'w barchu? Had dyn.Pa had nad yw i'w barchu? Y rhai sy'n torri'r gorchmynion.
20 Yn y teulu, eu pennaeth sydd i'w barchu;ac yng ngolwg yr Arglwydd, y rhai sy'n ei ofni ef.
22 Y cyfoethog, yr anrhydeddus, a'r tlawd,ofn yr Arglwydd yw eu hymffrost bob un.