24 Anrhydeddir y gŵr mawr, y barnwr, a'r llywodraethwr;ond nid yw'r un ohonynt mor fawr â hwnnw sy'n ofni'r Arglwydd.
25 Caiff caethwas doeth rai rhydd i weini arno,ac ni bydd neb call yn cwyno.
26 Paid â bod yn rhy ddoeth i wneud dy waith,na'th fawrhau dy hun pan yw'n gyfyng arnat.
27 Gwell yw gweithio, a bod ar ben dy ddigon o bopeth,na'th fawrhau dy hun a bod heb fara.
28 Fy mab, gogonedda dy hun mewn gwyleidd-dra,ac anrhydedda dy hun yn ôl dy deilyngdod.
29 Pwy a gyfiawnha'r sawl sy'n pechu yn ei erbyn ei hun?A phwy a anrhydedda'r sawl sy'n ei amharchu ei hun?
30 Anrhydeddir y tlawd ar gyfrif ei wybodaeth,a'r cyfoethog ar gyfrif ei gyfoeth.