2 Paid â chanmol neb ar gyfrif ei harddwch,na ffieiddio neb ar gyfrif ei wedd.
3 Ymhlith ehediaid un fechan yw'r wenynen,ond ei chynnyrch hi yw'r pennaf o bopeth melys.
4 Paid ag ymfalchïo yn y dillad a wisgi,nac ymddyrchafu pan ddaw anrhydedd i'th ran.Oherwydd rhyfeddol yw gweithredoedd yr Arglwydd;cuddiedig yw ei weithredoedd o olwg pobl.
5 Y mae llawer teyrn wedi gorfod eistedd ar y llawr,a rhywun disylw wedi gwisgo diadem.
6 Daeth llywodraethwyr lawer i waradwydd mawr,a thraddodwyd rhai o fri i ddwylo pobl eraill.
7 Paid â gweld bai cyn iti chwilio i'r achos;ystyria yn gyntaf, ac yna cerydda.
8 Paid ag ateb cyn iti wrando,a phaid â thorri ar draws neb ar ganol ei sgwrs.