5 Y mae llawer teyrn wedi gorfod eistedd ar y llawr,a rhywun disylw wedi gwisgo diadem.
6 Daeth llywodraethwyr lawer i waradwydd mawr,a thraddodwyd rhai o fri i ddwylo pobl eraill.
7 Paid â gweld bai cyn iti chwilio i'r achos;ystyria yn gyntaf, ac yna cerydda.
8 Paid ag ateb cyn iti wrando,a phaid â thorri ar draws neb ar ganol ei sgwrs.
9 Paid ag ymladd achos nad oes a wnelo â thi,a phaid ag eistedd i farnu gyda phechaduriaid.
10 Fy mab, paid â'th feichio dy hun â gofalon lawer;o'u hamlhau, ni fyddi'n ddi-gosb;o redeg ar eu hôl, ni elli eu dal;o redeg rhagddynt, ni elli ddianc.
11 Gall rhywun lafurio ac ymboeni a brysio,a bod yr un mor bell yn ôl wedi'r cyfan.