1 Wrth wneud cymwynas, ystyria i bwy yr wyt yn ei gwneud,a chei ddiolch am dy gymwynasau.
2 Gwna dda i'r duwiol, ac fe gei dy dalu'n ôl,os nad ganddo ef, yna gan y Goruchaf.
3 Ni ddaw daioni i'r sawl sy'n dal ati i wneud drygioni,nac i'r sawl sy'n gwrthod rhoi elusen.
4 Rho i'r duwiol, ond paid â chynorthwyo'r pechadur.
5 Gwna dda i'r gostyngedig, a phaid â rhoi i'r annuwiol.Atal iddo ei fara, a phaid â rhoi iddo,rhag iddo drwyddo fynd yn feistr arnat.Oherwydd cei ganddo ddwywaith cymaint o ddrwg yn dâlam yr holl ddaioni a wnaethost iddo ef.