2 Gwna dda i'r duwiol, ac fe gei dy dalu'n ôl,os nad ganddo ef, yna gan y Goruchaf.
3 Ni ddaw daioni i'r sawl sy'n dal ati i wneud drygioni,nac i'r sawl sy'n gwrthod rhoi elusen.
4 Rho i'r duwiol, ond paid â chynorthwyo'r pechadur.
5 Gwna dda i'r gostyngedig, a phaid â rhoi i'r annuwiol.Atal iddo ei fara, a phaid â rhoi iddo,rhag iddo drwyddo fynd yn feistr arnat.Oherwydd cei ganddo ddwywaith cymaint o ddrwg yn dâlam yr holl ddaioni a wnaethost iddo ef.
6 Y mae'r Goruchaf yntau'n casáu pechaduriaid,ac yn talu i'r annuwiol y gosb a haeddant.
7 Rho i'r da, ond paid â chynorthwyo'r pechadurus.
8 Nid mewn hawddfyd y cosbir cyfaill;ac mewn adfyd ni fydd gelyn yn ymguddio.