8 Nid mewn hawddfyd y cosbir cyfaill;ac mewn adfyd ni fydd gelyn yn ymguddio.
9 Pan yw'n hawddfyd ar rywun mae ei elynion yn drist,a phan yw'n adfyd arno mae hyd yn oed ei gyfaill yn pellhau oddi wrtho.
10 Paid byth ag ymddiried yn dy elyn,oherwydd y mae ei ddrygioni'n difa fel rhwd ar bres.
11 Er iddo ymostwng a rhodio'n benisel,gwylia dy hun a gochel rhagddo;byddi iddo ef fel un sy'n gloywi drych,a chei wybod nad yw wedi gorffen rhydu.
12 Paid â'i osod i sefyll yn dy ymyl,rhag iddo dy ddisodli a sefyll yn dy le.Paid â'i roi i eistedd ar dy law dde,rhag iddo geisio cael dy gadair di;yn y diwedd fe weli ystyr fy ngeiriau,a chael dy ddwysbigo gan yr hyn a ddywedais.
13 Pwy sy'n tosturio wrth swynwr-nadredd a frathwyd,neu wrth bawb sy'n ymwneud ag anifeiliaid gwylltion?
14 Felly gyda'r sawl sy'n closio at bechadurac yn ymgolli yn ei bechodau ef.