10 Paid ag ymwthio arno, rhag iddo dy wthio ymaith;ond paid â sefyll yn rhy bell, rhag iddo dy anghofio.
11 Paid â beiddio siarad ag ef fel un cydradd,a phaid ag ymddiried yn amlder ei eiriau,oherwydd rhoi prawf arnat y bydd â'i siarad hir,a'th chwilio a gwên ar ei wyneb.
12 Didrugaredd yw'r sawl nad yw'n cadw dy gyfrinachau,ac ni'th arbed rhag drygfyd na charchar.
13 Cadw dy gyfrinach i ti dy hun a chymer ofal mawr,oherwydd cerdded yr wyt ar ymyl y dibyn.
15 Y mae pob anifail yn caru ei debyg,a phob un dynol ei gymydog.
16 Y mae'r holl greaduriaid yn ymgasglu yn ôl eu rhywogaeth,a'r dynol yn ymlynu wrth ei debyg.
17 Pa gymdeithas fydd rhwng blaidd ac oen?Felly y mae rhwng y pechadurus a'r duwiol.