10 Clodforant hwy ei enw sanctaidd,gan fynegi mawredd ei weithredoedd.
11 Rhoddodd hefyd iddynt wybodaeth,a chyfraith bywyd yn etifeddiaeth.
12 Gwnaeth gyfamod tragwyddol â hwy,a dangos iddynt ei ddyfarniadau.
13 Gwelodd eu llygaid fawredd ei ogoniant,a chlywodd eu clust ogoniant ei lais.
14 Dywedodd wrthynt, “Gochelwch rhag pob anghyfiawnder,”a rhoes orchymyn i bob un ohonynt ynglŷn â'i gymydog.
15 Y mae eu ffyrdd ger ei fron ef bob amser;ni chuddir hwy o'i olwg.
17 I bob cenedl penododd lywodraethwr,ond cyfran yr Arglwydd yw Israel.