14 Dywedodd wrthynt, “Gochelwch rhag pob anghyfiawnder,”a rhoes orchymyn i bob un ohonynt ynglŷn â'i gymydog.
15 Y mae eu ffyrdd ger ei fron ef bob amser;ni chuddir hwy o'i olwg.
17 I bob cenedl penododd lywodraethwr,ond cyfran yr Arglwydd yw Israel.
19 Y mae eu holl weithredoedd mor glir iddo â'r haul,ac y mae ei lygaid ar eu ffyrdd yn wastadol.
20 Ni chuddiwyd eu hanghyfiawnder rhagddo;y mae eu holl bechodau gerbron yr Arglwydd.
22 Y mae elusennau rhywun fel sêl-fodrwy yn ei olwg,ac y mae'n trysori graslonrwydd fel cannwyll ei lygad.
23 Yn y diwedd bydd yn codi ac yn talu'n ôl i'r drwgweithredwyr,gan fwrw ar eu pennau eu cosb haeddiannol.