22 Y mae elusennau rhywun fel sêl-fodrwy yn ei olwg,ac y mae'n trysori graslonrwydd fel cannwyll ei lygad.
23 Yn y diwedd bydd yn codi ac yn talu'n ôl i'r drwgweithredwyr,gan fwrw ar eu pennau eu cosb haeddiannol.
24 Ond i'r edifeiriol y mae'n rhoi llwybr adferiad,ac yn calonogi'r diffygiol i ddyfalbarhau.
25 Tro at yr Arglwydd a chefna ar bechodau;gweddïa ger ei fron a lleiha dy gamwedd.
26 Dychwel at y Goruchaf a thro oddi wrth anghyfiawnder,a bydd fawr dy gasineb at y ffieiddbeth.
27 Pwy a glodfora'r Goruchaf yn Nhrigfan y Meirw,a chymryd lle'r byw i'w foliannu yn y côr?
28 Pan fydd rhywun farw, derfydd ei foliant fel petai ef wedi peidio â bod;y sawl sy'n fyw ac yn iach a glodfora'r Arglwydd.