7 Llanwodd hwy â gwybodaeth a deall,a dangos iddynt dda a drwg.
8 Cadwodd ei olwg ar eu calonnau,i ddangos iddynt fawredd ei weithredoedd.
10 Clodforant hwy ei enw sanctaidd,gan fynegi mawredd ei weithredoedd.
11 Rhoddodd hefyd iddynt wybodaeth,a chyfraith bywyd yn etifeddiaeth.
12 Gwnaeth gyfamod tragwyddol â hwy,a dangos iddynt ei ddyfarniadau.
13 Gwelodd eu llygaid fawredd ei ogoniant,a chlywodd eu clust ogoniant ei lais.
14 Dywedodd wrthynt, “Gochelwch rhag pob anghyfiawnder,”a rhoes orchymyn i bob un ohonynt ynglŷn â'i gymydog.