1 Yr hwn sy'n byw am byth a greodd bob peth fel ei gilydd;
2 yr Arglwydd yn unig sydd i'w gyfrif yn gyfiawn.
4 Ni roddodd gennad i neb i draethu ei weithredoedd;pwy a olrhain ei fawredd ef?
5 Pwy a fesur nerth ei fawrhydi,a phwy hefyd a all draethu'n llawn ei drugareddau ef?
6 Ni ellir cymryd dim oddi wrthynt nac ychwanegu dim atynt,ac ni ellir olrhain rhyfeddodau'r Arglwydd.