14 Y mae'n trugarhau wrth y rhai sy'n derbyn disgyblaeth,ac wrth y rhai sy'n dyfal geisio ei ddyfarniadau.
15 Fy mab, paid â chlymu cerydd wrth dy gymwynas,na geiriau cas wrth yr un o'th roddion.
16 Onid yw'r gwlith yn lleddfu'r gwres tanbaid?Felly trech gair na rhodd.
17 Yn wir, onid rhagorach yw gair nag anrheg ddrud?Ceir y ddau gan rywun graslon.
18 Edliw'n ddiras y mae ynfytyn,ac y mae rhodd y crintachlyd yn achos dagrau.
19 Dysg cyn llefaru,a chymer ofal o'th iechyd cyn dod gwaeledd.
20 Chwilia dy hun cyn dod barn,a chei faddeuant yn nydd yr ymweliad.