16 Onid yw'r gwlith yn lleddfu'r gwres tanbaid?Felly trech gair na rhodd.
17 Yn wir, onid rhagorach yw gair nag anrheg ddrud?Ceir y ddau gan rywun graslon.
18 Edliw'n ddiras y mae ynfytyn,ac y mae rhodd y crintachlyd yn achos dagrau.
19 Dysg cyn llefaru,a chymer ofal o'th iechyd cyn dod gwaeledd.
20 Chwilia dy hun cyn dod barn,a chei faddeuant yn nydd yr ymweliad.
21 Ymddarostwng cyn iti glafychu,a phan ddaw cyfle i bechu, dangos dy gefn iddo.
22 Paid â gadael i ddim dy rwystro rhag cyflawni adduned yn brydlon,a phaid ag oedi nes y byddi'n marw cyn cael gollyngdod oddi wrthi.