20 Chwilia dy hun cyn dod barn,a chei faddeuant yn nydd yr ymweliad.
21 Ymddarostwng cyn iti glafychu,a phan ddaw cyfle i bechu, dangos dy gefn iddo.
22 Paid â gadael i ddim dy rwystro rhag cyflawni adduned yn brydlon,a phaid ag oedi nes y byddi'n marw cyn cael gollyngdod oddi wrthi.
23 Cyn gwneud adduned paratoa dy hun,a phaid â bod fel rhywun yn gosod yr Arglwydd ar brawf.
24 Cofia'r digofaint a wynebi yn nyddiau dy ddiwedd,yn amser dial Duw, pan dry ymaith ei wyneb.
25 Yn amser digonedd, cofia amser newyn,ac yn nyddiau cyfoeth, cofia amser tlodi ac angen.
26 Gall dy ragolygon newid rhwng bore a hwyr;y mae popeth ar garlam, pan ewyllysia'r Arglwydd.