6 Ni ellir cymryd dim oddi wrthynt nac ychwanegu dim atynt,ac ni ellir olrhain rhyfeddodau'r Arglwydd.
7 Pan ddaw rhywun i ben â'r gwaith, nid yw ond dechrau,a phan rydd y gorau iddo, caiff ei hun mewn penbleth.
8 Beth yw'r dynol, ac i beth y mae'n dda?Beth yw ei lwydd, a beth yw ei aflwydd?
9 Nid yw hyd ei einioes namyn can mlynedd ar y mwyaf.
10 Fel diferyn o ddŵr y môr neu ronyn o dywody mae ei ychydig flynyddoedd yn ymyl dydd tragwyddoldeb.
11 Dyna pam y mae'r Arglwydd yn ymarhous wrthyntac yn tywallt ei drugaredd arnynt.
12 Gwelodd, a gwybu enbydrwydd eu hargyfwng;am hynny maddeuodd yn fwy helaeth iddynt.