4 O Arglwydd, fy Nhad a Duw fy mywyd,paid â'm gwneud yn drahaus fy edrychiad,
5 ac ymlid oddi wrthyf bob trachwant.
6 Na foed i lythineb na blys gael gafael ynof,a phaid â'm traddodi i reolaeth nwyd digywilydd.
7 Gwrandewch, feibion, sut i ddisgyblu'r genau;ni rwydir neb sydd ar ei wyliadwriaeth.
8 Wrth ei wefusau y delir pechadur,a thrwyddynt hefyd y daw cwymp i'r difenwr a'r balch.
9 Paid ag arfer dy enau i dyngu llw,a phaid â chynefino â dweud enw'r Un sanctaidd.
10 Oherwydd fel na fydd gwas a ffangellir yn barhausyn brin o gleisiau,felly ni chaiff y sawl sy'n tyngu o hyd yn enw Duwei lanhau oddi wrth bechod.